Jên Angharad, CEO

Name: Jên Angharad

Title: Prifweithredwr / CEO

E-bost: j.angharad@artiscommunity.org.uk


Ymunodd Artis: 06/05/2019


Diddordebau: Cerdded gyda fy nghŵn, dwi'n trio gwneud amser i ddarllen, dwi'n mwynhau gwylio drama a ffilm dda, gwrando ar gerddoriaeth a jig-sos!


Cefndir: Rwyf wedi mwynhau gyrfa hir ac amrywiol, gan adeiladu portffolio o waith yn annibynnol yng Nghymru fel perfformiwr, coreograffydd dwyieithog, hwylusydd gweithdai a chyfarwyddwr symudiadau ym myd addysg, cymunedol, theatr a theledu. Dwi'n greawdwr a hyfforddwr Synhwyro Cymraeg, yn cefnogi datblygiad ymarfer dwyieithog trwy'r corff a chreawdwr a pherfformiwr Sounds like an Adventure! prosiect perfformiad a gweithdy sy’n cefnogi datblygiad iaith drwy’r corff, gyda phlant meithrin. Rwy'n fentor gyda Equal Power Equal Voice a'r rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol. Rwyf wedi cyfrannu at nifer o fyrddau a grwpiau ymgynghorol y Celfyddydau, gan gynnwys Celfyddydau Anabledd Cymru, Bombastic, a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Ar hyn o bryd rwy’n dal swydd Cadeirydd Ballet Cymru.

Share by: