Mae YMa yn ail-ddychmygu adeilad YMCA Pontypridd a agorwyd ym 1910 ar brif stryd fawr canol tref Pontypridd. Mae YMCA Pontypridd ac Artis Community Cymuned wedi ffurfio partneriaeth i gyflwyno gweledigaeth newydd ar gyfer yr adeilad wedi'i ailddatblygu ar ôl sicrhau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae YMa yn lle newydd ar gyfer Diwylliant, Creadigrwydd a’r Celfyddydau ym Mhontypridd, gan groesawu pobl o bob oed, cefndir, diwylliant a phrofiad a adlewyrchir yn ein cymunedau, mewn ffordd sy’n hygyrch i bawb.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ailddatblygiad cyffrous hwn o'r YMCA cliciwch YMA i ymweld â gwefan YMa!
Mae gan YMa amrywiaeth o leoedd cyffrous i'w llogi, sy'n ddelfrydol ar gyfer llu o achlysuron. Beth bynnag fo’ch gofynion boed yn dechnegol, yn arlwyo neu’n farchnata, mae gennym dîm o weithwyr proffesiynol wrth law a all eich helpu i gyflawni’r digwyddiad yr ydych yn ei ddymuno…
Fel elusen gofrestredig mae Artis Community Cymuned yn chwilio am roddion i helpu i redeg y prosiectau a gweithgareddau cymorthdaledig niferus yn y gymuned ac yn fuan yn YMa. Fel sefydliad nid-er-elw rydym yn dibynnu ar gyllid a rhoddion i gadw ein prisiau gweithgaredd yn isel a llawer o weithgareddau â chymhorthdal.
Dewch yn Ffrind i YMa a derbyniwch nifer o fanteision gan gynnwys gweithgareddau am bris gostyngol trwy gydol gweithgareddau Artis yn YMa ac yn y gymuned!
Rhif Cwmni Cofrestredig 08179226
Rhif Elusen Gofrestredig 1150201
Cedwir Pob Hawl | Artis Community Cymuned