Planed Ponty Planet

CROESO I BLANED PONTY PLANED!

Dyma ein Llyfrgell o Bethau a Chaffi Trwsio Misol newydd yng nghanol Pontypridd yn YMa – Man Creu Meithrin Celf | Lle ar gyfer Diwylliant Creadigrwydd a'r Celfyddydau.

Mewn partneriaeth â Benthyg Cymru & Repair Café Wales, mae Artis Community Cymuned wedi sicrhau grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gwaredu Treth Tirlenwi WCVA i ddatblygu’r prosiect newydd cyffrous hwn a fydd yn cynnwys digwyddiadau a gweithdai gyda’r nod o leihau ein heffaith ar y blaned mewn ffordd greadigol a chynaliadwy.

Beth yw llyfrgell o bethau?

Tebyg iawn i lyfrgell lyfrau traddodiadol ond am eitemau yn lle hynny. Mae gan lyfrgell o bethau un nod – gwneud benthyca mor hawdd â dod allan am dorth o fara.

 

Pa fath o eitemau y gallaf eu benthyca?

Benthyg Heddiw!

Beth yw Caffi Atgyweirio?

Mae caffis trwsio yn ddigwyddiadau cymunedol a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n ymwneud â thrwsio eitemau cartref a dillad am ddim! Ei brif nod yw lleihau faint o wastraff yr ydym yn ei anfon i safleoedd tirlenwi.


Pryd mae'r Caffi Trwsio?

Cynhelir ein caffi atgyweirio ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis, 10y.b tan 1y.p. Y dyddiadau canlynol yw;

  • 2il o Fedi
  • 7fed o Hydref
  • 4ydd o Dachwedd
  • 2il o Ragfyr


Beth allwn ni ei drwsio?

Mae’r mathau o bethau rydyn ni’n eu trwsio yn cynnwys dillad, nwyddau trydan cartref, technoleg, teganau plant, gemwaith ac ati.


Share by: