Mae angen pobl angerddol yn y gymuned i fod yn hyrwyddwyr i ni! Mae Artis Community yn chwilio am wirfoddolwyr mewn amrywiaeth o rolau i'n cefnogi.
Mae yna bob amser weithgareddau newydd i gymryd rhan ynddynt, o gefnogi gyda'n dosbarthiadau dawns i hyrwyddo ein sesiynau yn y gymuned.
Gallwn fod yn hyblyg i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau eraill a chynnig cyfleoedd yn rheolaidd neu'n achlysurol. Gallwn hefyd gynnig mynediad i chi at hyfforddiant a chyfle i ennill sgiliau newydd.
Os ydych yn teimlo y gallech wneud gwahaniaeth yn eich cymuned, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cofrestrwch eich diddordeb drwy e-bostio emily.edwards@artiscommunity.org.uk
Mae gennym nifer o gyfleoedd i wirfoddoli gyda ni a chael cyfleoedd dysgu gwerthfawr ac uwchsgilio yn gyfnewid am hynny. Ar hyn o bryd mae gennym y cyfleoedd canlynol yn ein rhaglen Llysgenhadon Creadigol:
Ar hyn o bryd rydym yn y broses o symud i mewn i YMa, adeilad cymunedol newydd cyffrous yng nghanol Pontypridd! Ymunwch â ni yn y rolau canlynol;
Rydym hefyd yn gyffrous i fod yn datblygu Caffi Llyfrgell o Bethau a Thrwsio a fydd yn cael ei leoli o fewn YMa. Rydym yn chwilio am help yn y rolau canlynol;
Ydych chi rhwng 16-25 oed? Dewch yn Wirfoddolwr Llysgennad Creadigol Ifanc gyda ni!
Rydym yn chwilio am dîm o Wirfoddolwyr Cymraeg i helpu i siapio sut mae Artis Community Cymuned yn gweithio fel mudiad cwbl ddwyieithog.
Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb e-bostiwch: emily.edwards@artiscommunity.org.uk
Rhif Cwmni Cofrestredig 08179226
Rhif Elusen Gofrestredig 1150201
Cedwir Pob Hawl | Artis Community Cymuned