Mae Youth Explore yn weithdy dawns gyfoes hwyliog a chreadigol ar gyfer 11-18 oed (25 oed ADY) lle bydd cyfranogwyr yn cyd-greu ac yn ymarfer perfformiad dawns gyda’r dawnswyr proffesiynol o Ransack Dance Company!
Dyddiadau Gweithdai:
Dydd Sadwrn 6ed o Orffennaf - 9:30 - 16:30
Dydd Sul 7fed o Orffennaf - 14:00 - 18:30
Pris:
£10
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau ond mae'r pris yn rhwystr i chi, cysylltwch â ni gan fod 2 fwrsariaeth ar gael!
Bydd y criw wedyn yn perfformio yn ein Rhannu Dawns Haf 'Gyda'n Gilydd' ar 26ain Gorffennaf.
Bydd y criw hefyd yn cael cyfle cyffrous i berfformio gyda Chwmni Dawns Ransack fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd ym mis Awst!
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly er mwyn sicrhau eich lle gallwch gadw lle dros y ffôn: 01443 490390
Neu talwch yn y dderbynfa yn YMa, Pontypridd, CF37 4TS
Rhif Cwmni Cofrestredig 08179226
Rhif Elusen Gofrestredig 1150201
Cedwir Pob Hawl | Artis Community Cymuned