Mae Artis Cymuned yn darparu profiadau o ansawdd uchel yn y celfyddydau sydd wedi eu gyrru gan effeithiau cymdeithasol
Rydym yn cychwyn ar gyfeiriad newydd a fydd yn gosod budd cymdeithasol wrth wraidd ein holl waith. Rydym yn ailadeiladu ein gwefan er mwyn adlewyrchu ein gweledigaeth a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol newydd cyffrous. Gwyliwch y gofod hwn!
Mae Artis Cymuned yn darparu profiadau o ansawdd uchel yn y celfyddydau sy’n cael eu gyrru gan effeithiau cymdeithasol. Rydym yn credu yng ngrym trawsnewidiol creadigrwydd i allu gwneud gwahaniaeth sylweddol mewn ansawdd bywyd pobl.
Rydym yn cyflawni hyn drwy:
- Cyflawni gweithgareddau proffesiynol, aml-ffurf celfyddydol gyda buddion mesuradwy, gan helpu i oresgyn anfanteision cymdeithasol ac economaidd y cymunedau rydym yn gweithio ynddynt.
- Adeiladu rhwydwaith arloesol o bartneriaethau ar draws sectorau. Gydag egwyddorion a gwerthoedd cyflenwol, rydym yn creu amgylchedd o gydgefnogaeth drwy rannu gallu ac arbenigedd.
- Meithrin arloesedd ac anelu am ragoriaeth mewn ymarfer celfyddydol ac mewn busnes.